Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2016
Amser y cyfarfod: 13.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3615
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn dymuno’n dda i dîm pêl-droed Cymru yng ngêm gynderfynol pencampwriaethau Ewropeaidd 2016 UEFA heno ar ran y Cynulliad, ac estynnodd longyfarchiadau i’r tîm am eu llwyddiant hyd yma yn y twrnamaint, sydd wedi ysbrydoli’r genedl gyfan.
Dechreuodd yr eitem am 13.02
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i),
penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais
angenrheidiol yn digwydd ar ôl y
ddadl.
NDM6060Elin Jones (Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU
2016/2017.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r Briff Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
11 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6060Elin Jones (Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU
2016/2017.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
3.
Yn nodi'r Briff Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i
adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud
darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob
deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r UE
yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau
gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith
Cymru a'r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd
berthnasol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
2 |
10 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 14.52
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4, 5 a 7 gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6058
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod gan gwmni dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
43 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 -
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 4 -
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i
ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
2 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 -
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian presennol yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy newydd gael ei adeiladu ar safle TATA ym Mhort Talbot i fynd i'r afael â'r mater o gostau ynni uchel, a Horizon 2020, fel y gall canolfan ymchwil a datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws Arloesi Prifysgol Abertawe i wella cyfleoedd busnes TATA UK.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
10 |
27 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 -
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu
cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i'r
ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r Undeb
Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
1 |
2 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 -
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
9 |
5 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6058
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.
2. Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid
ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i'r
ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r Undeb
Ewropeaidd.
4. Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion
Moderneiddio'r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a
fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o
Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
5 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Gohiriwyd yr eitem tan 13 Gorffennaf 2016
NDM6059
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Mae angen ein hundebau arnom fwy nag erioed
Edrych ar waith yr undebau yng Nghymru o ran mynd i'r afael â llymder ac annog mwy o aelodaeth a chefnogaeth i undebau.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.55
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2016